Mynd i'r Afael â Chaethwasiaeth Fodern!
19 Rhag 2023
Ond yr hyn a wyddom yw bod 10,613 o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern wedi cael eu cyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC) y flwyddyn honno, y system lle mae dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn cael eu hadnabod yn y DU. Ac yn 2022, cofnododd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 536 o ddioddefwyr posibl masnachu pobl yng Nghymru, cynnydd o 479 yn 2021, gyda 58 o'r atgyfeiriadau hyn yn cael eu gwneud gan Gyngor Caerdydd.Ond beth yw caethwasiaeth fodern a sut mae Cyngor Caerdydd yn mynd i'r afael â'r broblem a helpu awdurdodau eraill i wneud yr un peth?

Mae caethwasiaeth fodern yn bodoli pan ddefnyddir egwyddorion cyfraith eiddo yng nghyswllt pobl, gan alluogi unigolion i fod yn berchen ar unigolion eraill, eu prynu a'u gwerthu. Mae dioddefwyr yn cael eu masnachu ledled y byd am ddim neu fawr ddim arian – gan gynnwys i'r DU ac yn y wlad ei hun. Mae'r term 'Caethwasiaeth Fodern' yn cyfleu ystod gyfan o fathau o gamfanteisio, gyda llawer ohonynt yn digwydd gyda'i gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Camfanteisio rhywiol: mae hyn yn cynnwys cam-drin rhywiol, puteindra gorfodol a cham-drin plant ar gyfer cynhyrchu delweddau / fideos cam-drin plant.
- Caethwasanaeth domestig: mae hyn yn golygu bod dioddefwyr yn cael eu gorfodi i weithio mewn cartrefi preifat fel arfer, yn gwneud dyletswyddau domestig a gofal plant.
- Llafur gorfodol: gall hyn ddigwydd mewn gwahanol ddiwydiannau, gan gynnwys adeiladu, gweithgynhyrchu, gosod tramwyfeydd, lletygarwch, pecynnu bwyd, amaethyddiaeth, morwrol a harddwch (bariau ewinedd).
- Camfanteisio troseddol: Gellir disgrifio hyn fel ecsbloetio person i gyflawni trosedd, megis dwyn o bocedi pobl, dwyn o siopau, tyfu canabis, masnachu cyffuriau a gweithgareddau tebyg eraill sy'n destun cosbau ac yn awgrymu elw ariannol i'r masnachwr.
- Masnachu pobl: mae hyn yn golygu bod person yn trefnu neu'n hwyluso teithio person arall gyda'r bwriad o fanteisio ar y person hwnnw. Mae’r drosedd yn gallu cael ei chyflawni hyd yn oed pan fo'r dioddefwr yn cydsynio i'r teithio. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith y gallai dioddefwr gael ei dwyllo gan yr addewid o fywyd neu swydd well neu gall fod yn blentyn sy'n cael ei ddylanwadu gan oedolyn i deithio.
- Mathau eraill o gamfanteisio: tynnu organau; cardota gorfodol; twyll budd-daliadau gorfodol; priodas dan orfod a mabwysiadu anghyfreithlon.
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, cyflenwyr, darparwyr gwasanaethau, undebau llafur ac eraill i fynd i'r afael â heriau caethwasiaeth fodern a sbarduno gweithredu ar y cyd gyda’r nod o leihau risgiau ac achosion o gaethwasiaeth fodern.Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi ei bumed Datganiad Caethwasiaeth Fodern (
Caethwasiaeth Fodern (caerdydd.gov.uk) 2023/24) ac mae'n cefnogi Awdurdodau Lleol o fewn trefniadau cydweithio Ardal i gynhyrchu eu datganiad cyntaf nhw. Mae wedi cynorthwyo Awdurdodau Lleol eraill yn flaenorol ac wedi rhannu ei ddatganiad ledled rhwydwaith Awdurdodau Lleol Cymru.
HyfforddiantTrwy gydweithio â Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill, mae Cyngor Caerdydd wedi helpu i ailsefydlu ystod o gyrsiau hyfforddi drwy eu dylunio a’u cyflwyno, gan gynnwys Ymatebwyr Cyntaf Amlasiantaeth, Codi Ymwybyddiaeth (gan gynnwys pecyn Cinio a Dysgu) a chwrs 'Hyfforddi’r Hyfforddwr' diweddaredig. Erbyn hyn mae dros 4,200 o staff y Cyngor wedi cwblhau hyfforddiant caethwasiaeth fodern.Mae cymorth hyfforddiant gan Barnardos i Wasanaethau Plant Cyngor Caerdydd wedi cael ei hwyluso, sydd wedi gweld cynnydd esbonyddol mewn cyflwyniadau MAC.
Cadwyni CyflenwiMae Cyngor Caerdydd yn gwario tua £600 miliwn y flwyddyn (£1biliwn yn rhwydwaith Ardal) yn caffael ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan dros 8,000 o gyflenwyr a chontractwyr. Mae'r Cyngor yn cyflawni diwydrwydd dyladwy wrth ystyried derbyn cyflenwyr newydd ac mae’n ceisio adolygu cyflenwyr presennol bob blwyddyn drwy ei drefniadau rheoli contractau.O ran caethwasiaeth fodern, mae’r Cyngor yn darparu rhan helaeth o'r sectorau risg uchel, gan gynnwys amaethyddiaeth, hamdden, lletygarwch, arlwyo, glanhau, dillad, adeiladu a gweithgynhyrchu, yn fewnol, neu'n defnyddio fframweithiau cenedlaethol a/neu gyflenwyr lleol.Trwy'r dull hwn a diwydrwydd parhaus, ystyrir bod y risg o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl gan gyflenwyr uniongyrchol Cyngor Caerdydd yn isel, a thrwy'r broses dendro, mae'r Cyngor yn sicrhau bod ei gyflenwyr uniongyrchol yn ymwybodol o'i ymrwymiad i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern.Mae'r Cyngor hefyd wedi cynhyrchu pecyn cynhwysfawr o offer er mwyn asesu risg mewn cadwyni cyflenwi, gan gynnwys Holiadur Hunanasesu newydd sy'n gynhenid i'r broses dadansoddi risg. Ei nod yw treialu'r holiadur hunanasesu i'w helpu yn ei ymdrechion i nodi risgiau o gamfanteisio o fewn cadwyni cyflenwi.
Gwerth Cymdeithasol Mae Cyngor Caerdydd yn darparu cymorth i gyflenwyr sydd wedi gwneud ymrwymiadau o dan Werth Cymdeithasol mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern. Mae’r cymorth hwn wedi cynnwys darparu gwybodaeth ar gyfer ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth mewnol a chyfeirio at adnoddau pellach. Mae cynlluniau hefyd ar waith i gefnogi a darparu hyfforddiant ar y safle i godi ymwybyddiaeth o faterion perthnasol ymhellach.Felly, er bod mater caethwasiaeth fodern yn gymhleth ac yn anodd ei ddeall yn llawn, nid oes amheuaeth y gall Caerdydd, drwy weithio gyda phartneriaid, cyflenwyr, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill, chwarae ei rhan a helpu i fynd i'r afael â phroblem oesol, gan wneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Caerdydd a thu hwnt.