Ymwadiad: Er bod y wybodaeth sydd ar y wefan hon yn gyhoeddus, fe'i bwriedir yn bennaf i'w defnyddio gan gleientiaid a chyflenwyr Ardal (Cyngor Caerdydd).
Mae Ardal (Cyngor Caerdydd) yn gwneud pob ymdrech i gynnal cywirdeb y wybodaeth ar y wefan hon ond ni all dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod a all ddigwydd o ganlyniad i ddefnyddio'r wybodaeth. Felly, rydych chi'n defnyddio unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon ar eich risg eich hun.
Nid yw Ardal (Cyngor Caerdydd) yn darparu rheolaeth ansawdd ar unrhyw ddolenni allanol ac nid oes ganddo unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys y safleoedd cysylltiedig hynny. Ni ddylid dehongli cynnwys enw unrhyw drydydd parti yn y tudalennau hyn fel argymhelliad o gynhyrchion a/neu wasanaethau'r parti hwnnw.
Gall defnydd heb awdurdod o'r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.
Mae eich defnydd o'r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o'r defnydd hwnnw yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr.
Cyflwyno Ffurflen Ymholiad Diogel
Er mwyn cyflwyno eich Ffurflen Ymholiad Ar-lein atom i'w hystyried, mae angen i ni drosglwyddo eich manylion personol dros y rhyngrwyd. Rydym wedi rhoi prosesau ffisegol, electronig a rheolaethol addas ar waith i ddiogelu gwybodaeth o'r fath, gan gynnwys defnyddio technoleg Amgryptio 128-bit (SSL) ddiogel.
Deddf Diogelu Data 1998 - Caniatâd ac Ardystio Manylion
Dim ond at ddiben ymateb i'ch ymholiad sy'n ymwneud ag Ardal (Cyngor Caerdydd) y bydd y data personol a ddarparwch ar y ffurflen hon yn cael ei ddefnyddio. Gellir ei ddefnyddio hefyd at ddibenion ystadegol ac yn benodol ein polisi cydraddoldeb integredig. Bydd y data yn cael ei storio ar ffeiliau cyfrifiadurol a/neu â llaw.
Er mwyn gweinyddu hyn, gall Ardal (Cyngor Caerdydd) rannu eich data personol gyda'u sefydliad cynnal gwe Amity Web Solutions.
Ni fydd eich manylion personol yn cael eu datgelu i unrhyw sefydliadau eraill heb eich caniatâd, ac eithrio lle mae dyletswydd statudol ar y Cyngor i'w datgelu neu oni bai ei fod yn gysylltiedig ag Ardal (Cyngor Caerdydd).
Drwy gyflwyno Ffurflen Ymholiad Ar-lein, rydych yn cadarnhau eich caniatâd i ganiatáu i Ardal (Cyngor Caerdydd) gofnodi a phrosesu'r wybodaeth a fanylir yn eich ffurflen Ymholiad. Rydych hefyd yn cadarnhau bod y wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn eich ffurflen gais yn gywir. Cedwir ffurflenni ymholiad yn fyw am 12 mis yn y Cyngor ac yna cânt eu dinistrio. Gall rhoi gwybodaeth ffug, yn ôl disgresiwn y Cyngor, arwain at atal eich defnydd o wasanaethau Ardal.
Mae'r awdurdod hwn o dan ddyletswydd i ddiogelu'r arian cyhoeddus y mae'n ei weinyddu, ac i'r perwyl hwn gall ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych ar y ffurflen hon i atal a chanfod twyll. Gall hefyd rannu'r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy'n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus at y dibenion hyn.
Am ragor o wybodaeth, gweler Testun Cryno ein Hysbysiad Prosesu Teg yn www.cardiff.gov.uk/fraud a Thestun Llawn yr Hysbysiad Prosesu Teg ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru http://www.wao.gov.uk/
Neu cysylltwch â:
Y Rheolwr Diogelu Data, Ystafell 356, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW. Ffôn: (029) 20873346.
Hawlfraint
Mae'r wefan hon wedi'i diogelu gan hawlfraint. Fe'i cyhoeddir gan Ardal (Cyngor Caerdydd) ac mae naill ai'n eiddo i'r Cyngor neu wedi'i drwyddedu iddo. Fe'i gwneir ar gael i chi ar delerau sy'n cynnwys hynny (ac mae'r canlynol yn berthnasol i'r wefan gyfan neu unrhyw ran ohoni):
• at eich defnydd personol chi yn unig y mae;
• ni chewch ei gopïo na'i drosglwyddo na'i atgynhyrchu fel arall na'i wneud ar gael ac eithrio i'w lawrlwytho ar un cyfrifiadur a'i weld at ddefnydd preifat yn unig;
• ni chewch, ac eithrio gyda'n caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw penodol, ei ddosbarthu na'i ecsbloetio'n fasnachol; ni chewch ei drosglwyddo na'i wneud ar gael ar rwydwaith heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw penodol;