Carbon
GWEFAN ARDAL – TUDALEN CARBON (MAI 25)
Yn Ardal, rydym wedi ymrwymo i greu dyfodol mwy cynaliadwy – ac rydym yn gwybod na allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Dyna pam rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n partneriaid a’n cyflenwyr i leihau allyriadau carbon a chofleidio egwyddorion economi gylchol ar draws ein cadwyn gyflenwi.
Mae Cynghorau Ardal i gyd wedi ymrwymo i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030. Bob blwyddyn, rhaid i bob Cyngor adrodd ei allyriadau sefydliadol i Lywodraeth Cymru, ac ar hyn o bryd gall yr allyriadau sy’n deillio o’r nwyddau, y gwasanaethau a’r gwaith y mae pob Cyngor yn eu prynu gyfrannu tuag at gymaint ag 80% o ôl troed carbon Cyngor.
Mynd i’r Afael ag Allyriadau o’n Cadwyn Gyflenwi
Gelwir ein hallyriadau cadwyn gyflenwi hefyd yn allyriadau Cwmpas 3. Mae’r allyriadau anuniongyrchol hyn yn deillio o alw Cyngor am nwyddau, gwasanaethau neu waith, ac yn her arbennig i awdurdodau lleol, gan fod yr allyriadau hyn yn digwydd mewn gweithgareddau cadwyn gyflenwi nad yw’r Cyngor yn berchen arnynt nac yn eu rheoli’n uniongyrchol. Er mwyn deall yr allyriadau hyn yn well, mae angen i gyflenwyr ddechrau adrodd eu hôl troed carbon a datgarboneiddio eu gweithrediadau, i’n helpu i nod lle mae allyriadau carbon ar eu gwaethaf ac olrhain cynnydd tuag at ein targedau datgarboneiddio.
Ymgorffori Economi Gylchol
Ochr yn ochr ag adrodd am garbon, mae economi gylchol yn flaenoriaeth allweddol i Ardal. Mae dull cylchol yn cadw deunyddiau mewn defnydd cyn hired â phosibl, gan leihau gwastraff ac arbed adnoddau. I gyflenwyr, mae hyn yn golygu dylunio cynhyrchion gwydn, y gellir eu hatgyweirio a’u hailgylchu, yn ogystal ag archwilio cynlluniau cymryd yn ôl neu ddefnyddio cynnwys wedi’i ailgylchu. Yn ogystal â lleihau effeithiau amgylcheddol, gall yr arferion hyn hefyd ddatgloi arbedion cost a chyfleoedd arloesi.
Prynu’n Gyfrifol
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd Ardal yn ymgorffori adroddiadau ar allyriadau carbon ac egwyddorion economi gylchol yn ein tendrau a’n contractau. Bydd hyn yn cynnwys prynu mewn ffordd sy’n cefnogi’r egwyddorion o ddileu gwastraff a llygredd drwy ddyluniad, cadw cynhyrchion/deunyddiau mewn defnydd cyn hired â phosibl a’n helpu i ddeall yr allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â’r hyn yr ydym yn ei brynu. Bydd ymgorffori hyn yn ein tendrau a’n contractau yn sicrhau ein bod yn prynu’n gyfrifol, ac rydym am weithio gyda chyflenwyr sy’n rhannu’r gwerthoedd a’r weledigaeth hyn.
Er mwyn helpu cyflenwyr i gychwyn arni, rydym wedi creu fideo byr sy’n esbonio ein Taith Carbon a sut y gallwch ymuno â ni.