Yn Ardal, rydym yn cydnabod bod ein cyflenwyr ar wahanol gamau yn eu taith lleihau carbon. Rydym wedi creu'r gofod pwrpasol hwn i'ch cefnogi i leihau allyriadau, ni waeth ble rydych chi ar eich taith.
Yma, fe welwch offer, canllawiau ac adnoddau defnyddiol sydd ar gael ar-lein sydd wedi'u cynllunio i helpu cyflenwyr i ddeall, mesur a lleihau eu hôl troed carbon.
Sut i Ddechrau Eich Taith Carbon
Mae lleihau eich ôl troed carbon yn dechrau gyda'i ddeall. Bydd y dudalen hon yn eich tywys trwy'r camau allweddol - o nodi'r data sydd ei angen arnoch, i gyfrifo eich allyriadau, a chreu Cynllun Lleihau Carbon
Cam 1: Deall beth sydd angen i chi ei fesur
Cyn i chi ddechrau lleihau eich allyriadau, mae'n bwysig deall pa ddata y bydd angen i chi ei gasglu ar draws eich busnes er mwyn cyfrifo eich Ôl Troed Carbon. Er mwyn ei gyfrifo'n gywir, bydd angen i chi gasglu data ar draws tri chategori o ffynonellau allyriadau, fel y'u diffinnir gan y Protocol Nwyon Tŷ Gwydr (NTG):
Cwmpas 1 – Allyriadau Uniongyrchol
Mae'r rhain yn allyriadau o ffynonellau y mae eich sefydliad yn berchen arnynt neu'n eu rheoli'n uniongyrchol.
Bydd angen data arnoch am:
- Danwydd a ddefnyddir yng ngherbydau'r cwmni (e.e. defnydd o betrol neu ddisel)
- Tanwydd ar y safle a ddefnyddir i gynhyrchu gwresogi (e.e. defnydd o nwy ar gyfer boeleri)
- Defnydd oerydd a gollyngiadau (e.e. oerydd wedi gollwng ac wedi’i newid o unedau aerdymheru)
- Tanwydd a ddefnyddir ar gyfer prosesau diwydiannol ar y safle (os yw'n berthnasol)
Cwmpas 2 – Allyriadau Anuniongyrchol o Ynni a Brynir
Mae'r rhain yn allyriadau o'r trydan, stêm, gwres neu oeri rydych chi'n eu prynu a'u defnyddio. Rhaid i'r ynni hwn gael ei gynhyrchu oddi ar y safle.
Bydd angen data arnoch am:
- Ddefnydd trydan (e.e. i'w ddefnyddio mewn adeiladau a gwefru cerbydau trydan)
- Gwresogi neu oeri wedi'u prynu (e.e. gwresogi ardal)
Cwmpas 3 – Allyriadau Anuniongyrchol Eraill
Mae'r rhain yn allyriadau o'ch cadwyn werth ehangach a'ch cadwyn gyflenwi, gan gynnwys gweithgareddau i fyny'r afon ac i lawr yr afon.
*Sylwch fod pymtheg categori o ffynonellau allyriadau o fewn Cwmpas 3 y gall busnes adrodd arnynt Fodd bynnag, i gynhyrchu cynllun lleihau carbon mae angen i chi ddechrau gyda'r pump canlynol.*
Bydd angen data arnoch am:
- Cludiant i fyny'r afon a Dosbarthu (e.e. danfoniadau cyflenwyr)
- Cludiant i lawr yr afon a Dosbarthu (e.e. gwasanaethau negesydd i ddosbarthu cynhyrchion a werthir i gwsmeriaid)
- Gwastraff a gynhyrchir mewn gweithrediadau (e.e. gwaredu a thrin gwastraff gan drydydd parti)
- Teithio busnes (e.e. cludo cyflogeion ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â busnes mewn cerbydau trydydd parti)
- Cymudo cyflogeion (e.e. cludo cyflogeion rhwng cartrefi a'u gweithle)
Er nad yw'n ofynnol ar hyn o bryd o fewn y Cynlluniau Lleihau Carbon, rydym yn annog busnesau i adrodd ar eu Nwyddau a Brynwyd a Gwasanaethau, gan fod eich cadwyn gyflenwi yn aml yn cynrychioli canran fawr o allyriadau sefydliad. Er mwyn adrodd y data hwn, cynghorir sefydliadau i gofnodi eu gwariant gyda chyflenwyr.
Cofiwch, gall Cwmpas 3 fod yn gymhleth, ond mae hyd yn oed casglu data rhannol yn helpu i adeiladu darlun cliriach o allyriadau eich sefydliad.
Deunydd Darllen Defnyddiol:
Edrychwch ar y Safon Gorfforaethol Protocol NTG am ganllawiau ar adrodd cywir.
Cam 2: Defnyddio Cyfrifiannell Carbon
Ar ôl i chi gasglu eich data, gallwch gyfrifo eich ôl troed carbon gan ddefnyddio un o'r offer hyn neu unrhyw gyfrifiannell carbon dibynadwy arall sydd ar gael ar-lein:
- Cyfrifiannellau Hyb Hinsawdd BBaChau – Wedi'u cynllunio ar gyfer busnesau bach, sy'n cwmpasu pob un o'r tri chwmpas.
- Cyfrifiannell BBaChau Ymddiriedolaeth Garbon – Yn darparu cwmpas 1 a 2 o allyriadau ar gyfer busnesau bach a chanolig.
- Cyfrifiannell Carbon Busnes Cymru – Cymorth a Chyfrifiannell Carbon i fusnesau Cymru.[ER1]
[ER1]Provide a link to the tool when it is available
Cam 3: Creu Eich Cynllun Lleihau Carbon (CLlC)
Unwaith y byddwch chi'n gwybod eich ôl troed, mae'n bryd cynllunio sut i'w leihau.
📌 Pwysig: Os ydych chi'n gwneud cais am gontractau cyhoeddus dros £5 miliwn (heb gynnwys TAW), bydd yn ofynnol i chi gyflwyno Cynllun Lleihau Carbon sy'n cydymffurfio yn unol â'r WPPN 06/21.
Dylai eich CLlC gynnwys:
- Ymrwymiad sero net (erbyn 2050 neu gynharach)
- Allyriadau gwaelodlin (gan gynnwys dadansoddiad o allyriadau Cwmpas 1-3)
- Targedau interim a chamau gweithredu i leihau allyriadau
- Diweddariadau blynyddol a gwelededd i’r cyhoedd
- Datganiad a chymeradwyaeth gan uwch weithredwr (gan gynnwys eu henw, teitl y swydd a dyddiad)
✅ Er mwyn bodloni'r safon dechnegol, rhaid i'ch CLlC gael ei gyhoeddi'n glir ar eich gwefan.
Adnoddau i'ch helpu i greu CLlC
I gael arweiniad ar sut i gynhyrchu Cynllun Lleihau Carbon sy'n cydymffurfio, defnyddiwch yr adnoddau a restrir isod:
- Templed CLlC - Gwasanaeth Masnachol y Goron
- Hyfforddiant Cynllun Lleihau Carbon - Eventbrite
- Safon Dechnegol ar gyfer Cwblhau Cynlluniau Lleihau Carbon - GOV.UK