Rydym wedi llunio'r cwestiynau cyffredin canlynol
Defnyddwyr Mewnol
-
Beth mae “Prynu’n Gyfrifol” yn ei olygu?
Mae Prynu'n Gyfrifol yn cyfeirio at wneud penderfyniadau prynu sy'n ystyried effeithiau moesegol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Mae'n sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau, yn cefnogi cynaliadwyedd, ac yn hyrwyddo arferion llafur teg.
-
Pam mae prynu cyfrifol yn bwysig i'n sefydliad?
Mae'n lleihau risg, yn gwella enw da, ac yn cyd-fynd â nodau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Mae prynu cyfrifol yn helpu i osgoi problemau cyfreithiol ac yn cefnogi cynaliadwyedd hirdymor.
-
Beth yw egwyddorion allweddol prynu cyfrifol?
Herio'r hyn rydych chi'n ei brynu
Ystyried yr effaith ar lesiant
Defnyddio contractau mewnol neu rai sy'n bodoli eisoes
Bod yn agored, yn deg ac yn dryloyw
A Rheoli cyflawni contractau
-
Sut ydw i'n adnabod cyflenwyr cymeradwy?
Defnyddiwch Gyfeiriadur Cyflenwadau Ardal ar ein tudalen Adnoddau i weld cyflenwyr cymeradwy dan gontract.
-
Pa ddogfennaeth sydd ei hangen i gydymffurfio â'r Rheolau Caffael?
Er mwyn cydymffurfio â'r rheolau, bydd angen i chi sicrhau eich bod wedi cwblhau'r Ffurflenni Adroddiad Cyn-Dendr a Dyfarnu Contract ar gyfer tendrau neu'r ffurflen Cofnod Dyfynbris ar gyfer dyfynbrisiau sydd i gyd ar gael ar ein tudalen Adnoddau.
-
Gyda phwy alla i gysylltu i gael arweiniad ar brynu'n gyfrifol?
Cysylltwch â thîm Caffael Ardal yn ArdalProcurement@cardiff.gov.uk. Maent yn rhoi cyngor ar y broses gaffael gyflawn o'r dechrau i'r diwedd.
-
Beth yw'r 4 Llwybr Caffael?
Llwybr 1 - Dyfynbrisiau hyd at £25k, a redir gennych chi drwy Gwerthwch2Gymru.
Llwybr 2 - Dyfynbrisiau o £25k i £75k, a redir gennych chi drwy Gwerthwch2Gymru.
Llwybr 3 - Tendrau o £75k hyd at Drothwy'r Ddeddf Caffael, a redir gan Dîm Caffael Ardal.
Llwybr 4 - Tendr uwchlaw'r Ddeddf Caffael, a redir gan Dîm Caffael Ardal.
Defnyddwyr Allanol
-
Sut mae dod yn Gyflenwr i Ardal?
Bydd angen i chi gofrestru ar Gwerthwch2Gymru a Phorth Cyflenwyr Proactis er mwyn gallu cynnig am gyfleoedd y mae'r 4 Cyngor Ardal yn eu cyhoeddi.
-
Ble alla i ddod o hyd i Gofrestri Contractau Cyngor Ardal?
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar Gofrestri Contractau Cynghorau Torfaen, Sir Fynwy a Bro Morganwg.
Mae rhestr o holl gontractau Cyngor Caerdydd dros £75,000 ar gael yma.