Ffeiliau yw cwcis a anfonir i'ch cyfrifiadur neu ddyfais mynediad arall o wefan y gellir cael mynediad iddi yn ddiweddarach gan yr un wefan. Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.

Rydym yn defnyddio cwcis i roi gwybodaeth ddienw inni am sut mae pobl yn defnyddio ein gwefan ac i'n helpu i wybod beth maen nhw'n ei chael yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol ar ein gwefan.


Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn ddiofyn. Fodd bynnag, os ydych chi'n anghyfforddus gyda chwcis, efallai y byddwch chi'n gallu gosod eich porwr gwe i wrthod pob cwci neu i roi gwybod i chi pan anfonir cwci i'ch cyfrifiadur - gallwch chi wedyn ddewis a ydych chi am dderbyn y cwci, ai peidio.

Sylwch, trwy wrthod ein cwcis neu analluogi cwcis yn y dyfodol, efallai na fyddwch chi'n gallu defnyddio rhai ardaloedd neu nodweddion o'n gwefan.

Er enghraifft, os ydych chi'n defnyddio'r wefan swyddi, bydd angen i chi alluogi cwcis er mwyn cael manteision llawn y gwasanaeth ar-lein hwn. Hefyd, os ydych chi am wneud taliadau, bydd angen galluogi cwcis.

Sut i reoli a dileu cwcis

Ni fydd cyngor Caerdydd yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth bersonol adnabyddadwy amdanoch chi. Fodd bynnag, os ydych chi am gyfyngu neu rwystro'r cwcis a osodir gan wefannau Cyngor Caerdydd, neu unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn trwy osodiadau eich porwr. Dylai'r swyddogaeth Cymorth yn eich porwr ddweud wrthych chi sut.


Fel arall, efallai yr hoffech ymweld â www.aboutcookies.orgDolen allanol yn agor mewn ffenestr newydd sy'n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ar sut i wneud hyn ar amrywiaeth eang o borwyr. Fe welwch chi hefyd fanylion ar sut i ddileu cwcis o'ch cyfrifiadur yn ogystal â gwybodaeth fwy cyffredinol am gwcis. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn ar borwr eich ffôn symudol, bydd angen i chi gyfeirio at lawlyfr eich ffôn llaw.

Byddwch yn ymwybodol y gall cyfyngu ar gwcis effeithio ar ymarferoldeb unrhyw un o wefannau Cyngor Caerdydd.