YMGYRCH LLES YN Y GWEITHLE – TACHWEDD - TASHWEDD
12 Tach 2026
Mae Ardal Procurement yn helpu i ddod â chymorth lles i safleoedd adeiladu
Y Tashwedd hwn, mae Ardal Procurement yn tynnu sylw at waith i helpu contractwyr adeiladu i wneud iechyd meddwl a lles yn rhan reolaidd o sgyrsiau ar safleoedd.
Gan weithio gyda Case UK drwy Fframwaith Adeiladu Strategol De-ddwyrain Cymru (SEWSCAP), mae Ardal wedi datblygu set o 13 o sgyrsiau cymorth lles wedi'u hariannu'n llawn ac wedi'u cynllunio ar gyfer y diwydiant adeiladu. Mae'r adnoddau wedi'u rhannu gyda'r holl gontractwyr fframwaith, a all hefyd eu trosglwyddo i'w hisgontractwyr.
Datblygwyd y sgyrsiau mewn ymateb i adborth o weithdai contractwyr. Dwedodd contractwyr wrth Ardal, tra bod polisïau a phrosesau lles corfforaethol ar waith, eu bod eisiau cymorth ymarferol sy’n cyrraedd y bobl sy'n gweithio ar y safle.
Mae cyflwyniadau diogelwch yn rhan sefydledig o fywyd ar safle. Dan arweiniad rheolwr safle neu oruchwylydd, maent yn rhoi cyfle rheolaidd i dimau drafod iechyd a diogelwch, ac mae'r sgyrsiau lles wedi'u cynllunio i'w cyflwyno yn yr un modd. Mae pob sgwrs yn cynnwys cyflwyniad, canllaw hwylusydd a thaflen ddwy ochr i weithwyr eu cymryd, gydag awgrymiadau trafod i gefnogi'r sesiwn. Mae'r pynciau'n cynnwys hanfodion iechyd meddwl, siarad yn gynnar, ymwybyddiaeth o hunanladdiad, blinder a gweithio oddi cartref, law yn llaw â pharch, cynhwysiant, camddefnyddio sylweddau a diogelu.
Mae'r adnoddau hefyd yn cyfeirio gweithwyr at Case UK, sefydliad annibynnol y gall unigolion gysylltu ag ef yn uniongyrchol, gan roi llwybr ychwanegol i gefnogaeth i'r rhai sy'n well ganddynt beidio â mynd at eu cyflogwr. Mae taflenni digidol yn nodi'r cymorth sydd ar gael drwy Able Futures a'r Gwasanaeth i Mewn i Waith, gan gynnwys gwasanaethau lles meddyliol a chorfforol. Mae mynediad at wasanaethau unigol yn dibynnu ar gymhwysedd, ac mae rhagor o fanylion ar gael gan Case UK.
"Dwedodd contractwyr wrthym pa gefnogaeth fyddai'n helpu, ac roedden ni eisiau ymateb mewn ffordd ystyrlon. Mae'r bobl sy'n gweithio ar ein prosiectau yn bwysig, ac mae'r adnoddau hyn yn un ffordd y gallwn ddangos hynny trwy gaffael sy'n gymdeithasol-gyfrifol. Byddwn yn parhau i wrando, fel nad oes unrhyw un ar y safle yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ysgwyddo pethau ar eu pennau eu hunain a sicrhau bod adnoddau yn cael eu darparu i reolwyr contract i wneud gwahaniaeth." Gemma Ellis, Pennaeth Caffael yn Ardal.
Bydd Ardal yn dilyn i fyny gyda chontractwyr i ddeall sut mae lles yn cael ei reoli ar lefel safle a sut mae'r adnoddau yn cael eu defnyddio. Bydd hyn yn helpu i adeiladu darlun cliriach o'u cyrhaeddiad ac yn llywio cymorth yn y dyfodol ar draws prosiectau fframwaith.
Er bod Tashwedd yn rhoi cyfle i dynnu sylw at iechyd meddwl dynion, y nod yw cadw lles ar yr agenda gydol y flwyddyn. Gall contractwyr fframwaith SEWSCAP a hoffai gael copi o'r pecyn gysylltu â'u tîm fframwaith Ardal.

Gall unrhyw un sy'n chwilio am gymorth ddarganfod mwy am wasanaethau a chymhwysedd Case UK yn https://www.case-uk.co.uk
Os oes angen i chi siarad â rhywun nawr, mae'r Samariaid ar gael 24/7 ar 116 123.