Canllaw Gwerthu i’r Cyngor
01 Gorff 2025
Mae canllaw newydd wedi'i gynllunio i helpu cyflenwyr a chontractwyr i ddeall sut i wneud busnes gyda Chynghorau Ardal wedi'i lansio.
Nod y canllaw hwn yw helpu sefydliadau i ddeall sut mae Cynghorau Ardal - Caerdydd, Torfaen, Sir Fynwy, a Bro Morganwg, yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Mae hefyd yn nodi sut y gall cyflenwyr posibl gynyddu eu siawns o ddod i wybod am gyfleoedd a bidio am waith.
Wedi'i ddatblygu ar y cyd, mae'r canllaw yn amlinellu'r prosesau caffael, y fframweithiau cyfreithiol, a'r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau sy'n edrych i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau, neu waith i awdurdodau lleol.
Mae'n darparu cyfarwyddiadau clir ar sut i gofrestru ar gyfer cyfleoedd trwy lwyfannau fel Gwerthwch i Gymru a Proactis ac yn egluro'r pedwar llwybr caffael a fabwysiadwyd gan bob Cyngor Ardal. Mae'r canllaw hefyd yn manylu ar y meini prawf dethol, y gweithdrefnau tendro, y pethau i'w gwneud a pheidio â'u gwneud wrth dendro a'r dulliau gwerthuso a ddefnyddir gan Gynghorau Ardal, gan sicrhau tryloywder a thegwch.
Yn bwysig, mae'r canllaw yn hyrwyddo caffael sy'n gymdeithasol gyfrifol, gan annog cyflenwyr i alinio â gwerthoedd Ardal o amgylch lles cymunedol, lleihau carbon, cyflogaeth foesegol, ac ymrwymiad i dalu'r Cyflog Byw Go Iawn. Mae'n cefnogi busnesau bach a chanolig, sefydliadau'r trydydd sector, a chonsortia i gael mynediad at gontractau cyhoeddus, ac yn cynnig cyngor ymarferol ar gyflwyno cynigion cystadleuol.