07 Gorff 2023

Sefydlu Cyfrif Banc Prosiect yng Nghymru

Mae'r Canllaw hwn wedi'i baratoi gan aelodau Fforwm Adeiladu Cymru i gefnogi gweithredu Cyfrifon Banc Prosiectau (PBAs) ar bob prosiect adeiladu a seilwaith priodol yng Nghymru.

Pba feature

Nod y Canllaw yw rhoi 12 cam syml i gleientiaid adeiladu ac aelodau'r gadwyn gyflenwi i sicrhau y gellir sefydlu PBAs mor gyflym a mor hawdd â phosibl i ddiogelu taliadau yn ystod prosiect.

Er bod datblygu'r Canllaw wedi cynnwys nifer o aelodau'r Fforwm, rhoddir cydnabyddiaeth benodol i Michelle Morgan-Loughman a'r Athro Rudi Klein o Actuate UK (Cymru) a ddrafftiodd y ddogfen.

Rhagair y Gweinidog

Sefydlwyd Fforwm Adeiladu Cymru ym mis Mehefin 2020, yn dilyn cyflwyno mesurau clo Covid19, i ganiatáu i'r sectorau cyhoeddus a phreifat drafod a mynd i'r afael â meysydd pryder cyffredin ar draws y sectorau adeiladu a seilwaith yng Nghymru.

Nododd partneriaid diwydiant feysydd blaenoriaeth yr oedd angen mynd i'r afael â nhw i greu amgylchedd mwy cynaliadwy i fusnesau ffynnu ac i ddarparu'r seilwaith, yr adeiladau a'r tai sydd eu hangen yng Nghymru yn well. Un o'r meysydd blaenoriaeth hyn oedd yr angen am daliad teg, prydlon a diogel ar gyfer cadwyni cyflenwi.

Llif arian yw gwaed einioes unrhyw fusnes, ac mae wedi bod yn bolisi gan Lywodraeth Cymru bod adrannau Llywodraeth Cymru yn defnyddio Cyfrifon Banc Prosiect (PBAs) i bob prosiect a ariennir gan y llywodraeth dros drothwy o £2 filiwn i ddiogelu taliadau oni bai bod "rhesymau cymhellol" i beidio â gwneud hynny. Mae hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i gynyddu hyder busnesau, i gryfhau ein heconomi sylfaenol ac i gefnogi twf busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Rwy'n falch bod ymdrechion ar y cyd y Fforwm wedi arwain yn gyflym at ddatblygu'r canllaw syml hwn i gefnogi gweithredu PBAs ar draws y sector ac i ategu polisïau a chanllawiau presennol Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i wella'r amgylchedd busnes yr ydym yn cyflawni prosiectau adeiladu a seilwaith ledled Cymru ynddo a byddwn yn annog partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat i'w gymhwyso ar bob prosiect priodol. Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd.


Lawrlwytho

Gweld Cyfrifon Banc y Prosiect PDF

Pba image 1
Pba2 image 2