Yr hyn a wnawn

Mae Ardal yn ceisio hyrwyddo caffael sy’n gymdeithasol-gyfrifol drwy ymdrechu i sicrhau’r effaith gadarnhaol fwyaf posibl ar les economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar draws ein partneriaeth a’n fframweithiau.

Pam rydyn ni’n ei wneud

Rydym yn cael ein hysgogi gan uchelgais gref i ddefnyddio pŵer gwariant caffael i helpu i greu cymunedau cynaliadwy a chydnerth sy’n blaenoriaethu lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen i ni gefnogi camau beiddgar i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb, cefnogi gwaith teg, amddiffyn ein hamgylchedd, a chefnogi ein heconomi leol.

Rhagor o Wybodaeth

Sut rydyn ni’n ei wneud

I gyflawni hyn, rydym wedi alinio ein hamcanion caffael allweddol â’r gofynion deddfwriaethol a pholisi presennol – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) – sy’n cydnabod rôl caffael wrth wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Cwrdd â’r Tîm

Cymru lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.

Cymru gydnerth

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).

Cymru iachach

Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol.

Cymru fwy cyfartal

Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir na’u hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).

Cymru o gymunedau cydlynol

Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da.

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, a chwaraeon a gweithgareddau hamdden.

Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang

Cenedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a fydd gwneud y fath beth yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at les byd-eang a’r gallu i addasu i newid (er enghraifft, y newid yn yr hinsawdd).

Fframweithiau
cydweithredol

Defnyddir ein fframweithiau yn rhanbarthol a chenedlaethol i ddarparu adeiladau a phrosiectau adeiladu priffyrdd, ac i ddarparu gwasanaethau technegol a phroffesiynol.

Rhagor o Wybodaeth
sewh
sewh

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Peirianneg Sifil a Phriffyrdd De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewscap
sewscap

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewtaps
sewtaps

Fframwaith Gwasanaethau Technegol a Phroffesiynol De-ddwyrain Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Mae ein fframweithiau’n cael eu defnyddio gan...

Ein hastudiaethau achos diweddaraf

Gweld yr holl Astudiaethau Achos

STEAM Academy, Bridgend College

Rhagor o wybodaeth

Delivering Modern Methods of Construction

Rhagor o wybodaeth

Delivering Net-Zero Carbon Schools Fit For The Future

Rhagor o wybodaeth

Setting Up a Project Bank Account in Wales

Rhagor o wybodaeth

STEAM Academy, Bridgend College

Delivering Modern Methods of Construction

Delivering Net-Zero Carbon Schools Fit For The Future

Setting Up a Project Bank Account in Wales