author

Mae ein holl bartneriaid wedi ymrwymo i’r Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sy’n ceisio mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern, cam-drin hawliau dynol, rhestru duon, hunangyflogaeth ffug, defnydd annheg o gynlluniau ymbarél a chontractau dim oriau.

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn creu fframwaith i wella lles pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy waith partneriaeth cymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol-gyfrifol.

Hefyd, mae diogelu pobl sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth allweddol i’n holl bartneriaid ac mae angen i ni sicrhau bod ein cyflenwyr a’n contractwyr yn deall ac yn derbyn bod diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed yn gyfrifoldeb pawb.

Ein nod yw cefnogi hyn drwy’r canlynol:

• Sicrhau bod tendrwyr a chontractwyr yn ymwybodol o’n hymrwymiad i weithio gyda sefydliadau a fydd yn ein cefnogi i gyflawni dyletswyddau cydraddoldeb, gwaith teg a diogelu.
• Defnyddio ein proses dendro i sicrhau bod ein cyflenwyr a’n contractwyr wedi ymrwymo i’n cefnogi i gyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb, gwaith teg a diogelu.
• Gweithio gyda’n cyflenwyr a’n contractwyr i sicrhau eu bod yn hyrwyddo arferion gwaith teg a diogelu o fewn eu sefydliad a’u cadwyn gyflenwi.

Fframweithiau
cydweithredol

Defnyddir ein fframweithiau yn rhanbarthol a chenedlaethol i ddarparu adeiladau a phrosiectau adeiladu priffyrdd, ac i ddarparu gwasanaethau technegol a phroffesiynol.

Rhagor o Wybodaeth
sewh
sewh

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Peirianneg Sifil a Phriffyrdd De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewscap
sewscap

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewtaps
sewtaps

Fframwaith Gwasanaethau Technegol a Phroffesiynol De-ddwyrain Cymru.

Rhagor o wybodaeth