Mynd y Filltir Ychwanegol i Llamau!

Steve Robinson

‘Coesau’n gwingo, ysgyfaint yn llosgi, traed yn brifo… waw am olygfa’ dyma rai o’r teimladau y teimlodd ein haelod o’r tîm Alicja Robinson wrth iddi gymryd rhan yn ‘Hike for Llamau’ gyda Travis Perkins, gan godi arian i’r elusen a’i helpu i barhau â’r gwaith anhygoel y mae’n ei wneud i fynd i’r afael â diweithdra a digartrefedd ymhlith pobl ifanc.

Cerddodd Alicja a’i chriw o gerddwyr y llwybr cylchol Pont ar Daf 6.5km a oedd yn cynnwys dringo Pen-y-Fan, y copa uchaf yn Ne Cymru, yn y Bannau Brycheiniog gogoneddus, er i’r tywydd geisio’i orau glas i ddifetha gwefr y llwyddiant!

Mae ymdrech codi arian Alicja yn adeiladu ar y £25,000 a roddwyd eisoes i Llamau gan ein fframweithiau, SEWSCAP (Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De Ddwyrain a Chanolbarth Cymru) a SEWH (Priffyrdd De Ddwyrain Cymru), gan sicrhau cymorth i raglenni Lles ac Addysg yr elusen.

 

Cenhadaeth Llamau yw rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc a digartrefedd ymhlith menywod yng Nghymru, gan ei wneud yn brin, yn fyr ac yn anghylchol os a phryd y bydd yn digwydd. Mae Llamau wedi datblygu amrywiaeth o wasanaethau cysylltiedig â thai, atal a ‘symud ymlaen’, gan gynnwys ystod o raglenni ‘Camu i…’ a luniwyd i gefnogi pobl ifanc a menywod sydd â phrofiadau o ddigartrefedd a cham-drin er mwyn cyflawni eu potensial a byw bywydau annibynnol, pwrpasol. Mae’n darparu gwasanaethau ar draws 19 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru ac yn 2020/21 cefnogodd dros 7,500 o bobl ifanc, menywod, a phlant er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol a chynaliadwy.

Yn flaenorol, ariannodd y fframweithiau SEWSCAP a SEWH y rhaglen ‘Camu at Les’ gyda nod craidd o helpu pobl ifanc sydd ag anghenion cymhleth i ddatblygu hunan gred, teimlo’n falch o beth maen nhw wedi’i gyflawni ac yn hyderus y gallan nhw barhau i oresgyn eu rhwystrau a nodwyd i addysg, cyflogaeth, a hyfforddiant. Caiff ei ddarparu trwy weithdai tywys, trafodaethau grŵp a gweithgareddau yn y gymuned, ac maen nhw’n gweithio gyda phobl ifanc i nodi’r rhwystrau sy’n eu dal yn ôl a chreu cynllun unigol i wella ansawdd eu bywydau.

Cefnogodd ein fframweithiau hefyd y rhaglen ‘Camu i Addysg’ sy’n darparu rhaglenni’r elusen Agored Cymru a Sgiliau Hanfodol Cymru, gwobrau mewn Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith a gweithdai rhyngweithiol. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau bywyd ac yn gweithio’n agos gyda phartneriaid Llamau fel Gyrfa Cymru er mwyn sicrhau bod cyngor ac arweiniad diduedd yn cael eu darparu.

Felly a fyddai Alicja yn rhoi ei hun drwy agweddau corfforol y daith a thywydd garw eto er budd yr elusen?

“Ie yn bendant! Roeddwn i wrth fy modd ac er bod y daith i fyny Pen-y-fan ymhell o fod yn hawdd, roeddwn i’n gwybod bod pob cam werth chweil gan ei fod yn cefnogi’r gwaith anhygoel mae Llamau yn ei wneud.

“Roedd hi hefyd yn braf gweld ein contractwyr yn cefnogi sefydliadau sy’n darparu gwasanaeth mor bwysig i bobl sy’n agored i niwed yn ein cymuned. Roedd hi’n wych ymuno â’r tîm o Travis Perkins wrth iddyn nhw gwblhau’r daith gerdded ar gyfer Llamau.”

Dwedodd Martyn Piper, Rheolwr Cyfrif Gwasanaethau Rheoledig Travis Perkins: “Roedd yn gyfle gwych i staff Cyngor Caerdydd a Travis Perkins ddod at ei gilydd yn yr awyr iach a chefnogi achos mor deilwng. Roedd yn daith heriol, ond cawsom lawer o hwyl ac roedd yn werth chweil.”

Fframweithiau
cydweithredol

Defnyddir ein fframweithiau yn rhanbarthol a chenedlaethol i ddarparu adeiladau a phrosiectau adeiladu priffyrdd, ac i ddarparu gwasanaethau technegol a phroffesiynol.

Rhagor o Wybodaeth
sewh
sewh

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Peirianneg Sifil a Phriffyrdd De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewscap
sewscap

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewtaps
sewtaps

Fframwaith Gwasanaethau Technegol a Phroffesiynol De-ddwyrain Cymru.

Rhagor o wybodaeth