Yn 2020, cyhoeddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol *adroddiad yn nodi’r heriau o gynhyrchu mesur cywir o gyffredinrwydd caethwasiaeth fodern yn y DU, o ystyried natur gudd y drosedd, diffyg ffynonellau data diffiniol, a nodi methodoleg gywir i feintioli’r data.
Ond yr hyn a wyddom yw bod 10,613 o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern wedi cael eu cyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (MAC) y flwyddyn honno, y system lle mae dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern a masnachu pobl yn cael eu hadnabod yn y DU. Ac yn 2022, cofnododd yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol 536 o ddioddefwyr posibl masnachu pobl yng Nghymru, cynnydd o 479 yn 2021, gyda 58 o’r atgyfeiriadau hyn yn cael eu gwneud gan Gyngor Caerdydd.
Ond beth yw caethwasiaeth fodern a sut mae Cyngor Caerdydd yn mynd i’r afael â’r broblem a helpu awdurdodau eraill i wneud yr un peth?
Mae caethwasiaeth fodern yn bodoli pan ddefnyddir egwyddorion cyfraith eiddo yng nghyswllt pobl, gan alluogi unigolion i fod yn berchen ar unigolion eraill, eu prynu a’u gwerthu. Mae dioddefwyr yn cael eu masnachu ledled y byd am ddim neu fawr ddim arian – gan gynnwys i’r DU ac yn y wlad ei hun. Mae’r term ‘Caethwasiaeth Fodern’ yn cyfleu ystod gyfan o fathau o gamfanteisio, gyda llawer ohonynt yn digwydd gyda’i gilydd. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Camfanteisio rhywiol: mae hyn yn cynnwys cam-drin rhywiol, puteindra gorfodol a cham-drin plant ar gyfer cynhyrchu delweddau / fideos cam-drin plant.
- Caethwasanaeth domestig: mae hyn yn golygu bod dioddefwyr yn cael eu gorfodi i weithio mewn cartrefi preifat fel arfer, yn gwneud dyletswyddau domestig a gofal plant.
- Llafur gorfodol: gall hyn ddigwydd mewn gwahanol ddiwydiannau, gan gynnwys adeiladu, gweithgynhyrchu, gosod tramwyfeydd, lletygarwch, pecynnu bwyd, amaethyddiaeth, morwrol a harddwch (bariau ewinedd).
- Camfanteisio troseddol: Gellir disgrifio hyn fel ecsbloetio person i gyflawni trosedd, megis dwyn o bocedi pobl, dwyn o siopau, tyfu canabis, masnachu cyffuriau a gweithgareddau tebyg eraill sy’n destun cosbau ac yn awgrymu elw ariannol i’r masnachwr.
- Masnachu pobl: mae hyn yn golygu bod person yn trefnu neu’n hwyluso teithio person arall gyda’r bwriad o fanteisio ar y person hwnnw. Mae’r drosedd yn gallu cael ei chyflawni hyd yn oed pan fo’r dioddefwr yn cydsynio i’r teithio. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith y gallai dioddefwr gael ei dwyllo gan yr addewid o fywyd neu swydd well neu gall fod yn blentyn sy’n cael ei ddylanwadu gan oedolyn i deithio.
- Mathau eraill o gamfanteisio: tynnu organau; cardota gorfodol; twyll budd-daliadau gorfodol; priodas dan orfod a mabwysiadu anghyfreithlon.
Mae Cyngor Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, cyflenwyr, darparwyr gwasanaethau, undebau llafur ac eraill i fynd i’r afael â heriau caethwasiaeth fodern a sbarduno gweithredu ar y cyd gyda’r nod o leihau risgiau ac achosion o gaethwasiaeth fodern.
Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi ei bumed Datganiad Caethwasiaeth Fodern (Caethwasiaeth Fodern (caerdydd.gov.uk) 2023/24) ac mae’n cefnogi Awdurdodau Lleol o fewn trefniadau cydweithio Ardal i gynhyrchu eu datganiad cyntaf nhw. Mae wedi cynorthwyo Awdurdodau Lleol eraill yn flaenorol ac wedi rhannu ei ddatganiad ledled rhwydwaith Awdurdodau Lleol Cymru.
Hyfforddiant
Trwy gydweithio â Llywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill, mae Cyngor Caerdydd wedi helpu i ailsefydlu ystod o gyrsiau hyfforddi drwy eu dylunio a’u cyflwyno, gan gynnwys Ymatebwyr Cyntaf Amlasiantaeth, Codi Ymwybyddiaeth (gan gynnwys pecyn Cinio a Dysgu) a chwrs ‘Hyfforddi’r Hyfforddwr’ diweddaredig. Erbyn hyn mae dros 4,200 o staff y Cyngor wedi cwblhau hyfforddiant caethwasiaeth fodern.
Mae cymorth hyfforddiant gan Barnardos i Wasanaethau Plant Cyngor Caerdydd wedi cael ei hwyluso, sydd wedi gweld cynnydd esbonyddol mewn cyflwyniadau MAC.
Cadwyni Cyflenwi
Mae Cyngor Caerdydd yn gwario tua £600 miliwn y flwyddyn (£1biliwn yn rhwydwaith Ardal) yn caffael ystod eang o nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan dros 8,000 o gyflenwyr a chontractwyr. Mae’r Cyngor yn cyflawni diwydrwydd dyladwy wrth ystyried derbyn cyflenwyr newydd ac mae’n ceisio adolygu cyflenwyr presennol bob blwyddyn drwy ei drefniadau rheoli contractau.
O ran caethwasiaeth fodern, mae’r Cyngor yn darparu rhan helaeth o’r sectorau risg uchel, gan gynnwys amaethyddiaeth, hamdden, lletygarwch, arlwyo, glanhau, dillad, adeiladu a gweithgynhyrchu, yn fewnol, neu’n defnyddio fframweithiau cenedlaethol a/neu gyflenwyr lleol.
Trwy’r dull hwn a diwydrwydd parhaus, ystyrir bod y risg o gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl gan gyflenwyr uniongyrchol Cyngor Caerdydd yn isel, a thrwy’r broses dendro, mae’r Cyngor yn sicrhau bod ei gyflenwyr uniongyrchol yn ymwybodol o’i ymrwymiad i fynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern.
Mae’r Cyngor hefyd wedi cynhyrchu pecyn cynhwysfawr o offer er mwyn asesu risg mewn cadwyni cyflenwi, gan gynnwys Holiadur Hunanasesu newydd sy’n gynhenid i’r broses dadansoddi risg. Ei nod yw treialu’r holiadur hunanasesu i’w helpu yn ei ymdrechion i nodi risgiau o gamfanteisio o fewn cadwyni cyflenwi.
Gwerth Cymdeithasol
Mae Cyngor Caerdydd yn darparu cymorth i gyflenwyr sydd wedi gwneud ymrwymiadau o dan Werth Cymdeithasol mewn perthynas â chaethwasiaeth fodern. Mae’r cymorth hwn wedi cynnwys darparu gwybodaeth ar gyfer ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth mewnol a chyfeirio at adnoddau pellach. Mae cynlluniau hefyd ar waith i gefnogi a darparu hyfforddiant ar y safle i godi ymwybyddiaeth o faterion perthnasol ymhellach.
Felly, er bod mater caethwasiaeth fodern yn gymhleth ac yn anodd ei ddeall yn llawn, nid oes amheuaeth y gall Caerdydd, drwy weithio gyda phartneriaid, cyflenwyr, Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol eraill, chwarae ei rhan a helpu i fynd i’r afael â phroblem oesol, gan wneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Caerdydd a thu hwnt.