Mynd i’r afael â materion yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi… Y Ffordd Ymlaen!

Steve Robinson

Ken Evans, Cadeirydd blaenorol Sefydliad y Peirianwyr Sifil (SPS) Cymru, sy’n esbonio beth sydd angen digwydd i helpu contractwyr i ymdopi â phroblemau parhaus yn y gadwyn gyflenwi

Mae pawb yn y diwydiant adeiladu / peirianneg sifil yn ymwybodol iawn o’r pwysau a’r problemau sydd wedi llesteirio prosiectau dros y blynyddoedd diwethaf; o Brexit a’r effaith ar gyflenwadau deunyddiau, y rhyfel yn Wcráin sydd ar hyn o bryd yn effeithio ar gost ac ansawdd y bitwmen, diffyg pobl ifanc yn y diwydiant, a chost gyffredinol deunyddiau a oedd ar un adeg yn cynyddu’n wythnosol.

Sdim dwywaith amdani, mae contractwyr yn wynebu pob math o broblemau felly sdim cyfle i laesu dwylo, a bydd digon o hynny yn 2023.

Mae newid mawr ar droed ym maes caffael cyhoeddus! Mae Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus newydd (Cymru) yn aros am Gydsyniad Brenhinol, ac un o’r canlyniadau fydd sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol. Yn Lloegr, mae’r Bil Caffael yn gwneud ei ffordd drwy’r senedd. Bydd angen i fusnesau sydd am ennill contractau cyhoeddus ymgyfarwyddo â’r Safon Asesu Cyffredin – system wedi’i harwain gan y sector cyn cymhwyso sy’n cwmpasu ystod o themâu o ran cydymffurfio, o iechyd a diogelwch i gaethwasiaeth fodern a llygredd.

Bydd diwygiadau diogelwch ym maes adeiladu hefyd yn sgil Deddf Diogelwch Adeiladu 2022. A, bydd gwerth cymdeithasol, yn gwbl briodol, yn fwyfwy amlwg gan ganolbwyntio’n fwy ar yr unigolyn. Bydd hynny’n cael effaith wirioneddol ac amlwg, ac yn gadael gwaddol cymunedol. Mae hyn yn rhywbeth y mae fframweithiau SEWSCAP a SEWH yn arwain ymlaen ers y ddwy flynedd ddiwethaf, gan addysgu contractwyr yn y broses, sy’n glodfawr yn wir.
Ond mae’n ddigon posib mai costau cadwyn cyflenwi a diffyg gweithwyr yw’r heriau mwyaf, sy’n ychwanegu at y pwysau wrth dendro. . Efallai bod costau wedi sefydlogi rywfaint, ond mae’r problemau wedi bod yn ddifrifol ac mae hynny wedi cael effaith dirfawr.

Er enghraifft, mae’r fasnach gyflenwi yn dal yn ansicr ynglŷn â dyfynbrisiau am ddeunyddiau, oherwydd erbyn cwblhau’r tendr, bydd prisiau siŵr o fod wedi codi. Mae’r broblem hon yn codi wrth gwblhau tendr; erbyn hyn, mae angen dyfynbris gan sawl cwmni i gael pris da, lle yn y gorffennol pan oedd costau’n fwy sefydlog, gellid cysylltu â chwmni gan wybod yn barod bod y pris yn mynd i fod yn dda. Mae’r broses hon bellach yn ychwanegu mwy o gymhlethdod ar dendrau, gan gynyddu’r pwysau i gwblhau tendr mewn da bryd.

Mae hyn hefyd yn effeithio ar aildendro; mae’n siŵr y bydd costau’r gadwyn gyflenwi wedi codi o ddyfynbris y tendr gwreiddiol, felly bydd aildendro’n fwy problematig.

Ond mae ffordd ymlaen… cyfathrebu a chydweithio!

Er mwyn helpu i oresgyn problemau yn y gadwyn gyflenwi mae angen mwy o gyfathrebu drwy weithdai a thrafodaethau bwrdd crwn. Rhaid i’r rhain gynnwys pob partner posibl, o gontractwyr ac Awdurdodau Lleol, i fframweithiau a darparwyr addysg. Dim ond drwy’r math hwn o gydweithio y bydd mwy o ddealltwriaeth o’r pwysau a’r costau yn y gadwyn gyflenwi, sy’n cael effaith enfawr ar amserlenni a gwaith projectau

Yn sail i hyn, dylai fod ffocws o’r newdd ar ddarparwyr addysg ac astudiaethau achos. Rhaid tynnu sylw at y cwmniau hynny sydd wedi llwyddo i ddenu’r genhedlaeth nesaf i faes adeiladu a pheirianneg sifil. Dylid eu hannog i egluro sut y llwyddon nhw i recriwtio, beth gawson nhw’n iawn, beth i beidio â’i wneud, a dylid helpu sefydliadau addysgol i gyfleu’r negeseuon cywir i fyfyrwyr.

Hefyd, mae angen ystyried yn fwy sut mae Dyrannu Risg yn iawn mewn prosiectau ac mae’n hanfodol bod Telerau ac Amodau yn adlewyrchu sefyllfaoedd penodol ar bob prosiect fel bod pawb yn ymwybodol o’r problemau a’r cyfrifoldebau.

Nid gwyddoniaeth roced mohono, ond heb y cyfathrebu, bydd problemau yn y gadwyn gyflenwi yn parhau i fod yn dalcen caled ac yn y pen draw, nid yw hynny o fudd i neb!

Fframweithiau
cydweithredol

Defnyddir ein fframweithiau yn rhanbarthol a chenedlaethol i ddarparu adeiladau a phrosiectau adeiladu priffyrdd, ac i ddarparu gwasanaethau technegol a phroffesiynol.

Rhagor o Wybodaeth
sewh
sewh

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Peirianneg Sifil a Phriffyrdd De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewscap
sewscap

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewtaps
sewtaps

Fframwaith Gwasanaethau Technegol a Phroffesiynol De-ddwyrain Cymru.

Rhagor o wybodaeth