Mae pawb ar eu hennill gyda Chyfrifon Banc Prosiectau

Penny Haywood

Pe bai rhywun yn cynnig llif arian gwell i’ch busnes oherwydd bod taliadau’n cael eu derbyn yn gyflymach na’ch telerau talu arferol, bod llai o amser yn cael ei wastraffu yn olrhain taliadau ac yn rheoli anghydfodau yn ymwneud â thalu, gan arwain at lai o straen ar y busnes a’ch staff, a fyddech chi’n ei groesawu?

Dyma’n union beth sy’n cael ei gynnig drwy Gyfrifon Banc Prosiectau (CBPau), sy’n cael ei hyrwyddo gan bolisi CBP Llywodraeth Cymru (Nodyn Polisi Caffael Cymru (NPCC 03/21) fel modd o hwyluso taliad teg ac amserol i fusnesau bach a chanolig sy’n chwarae rhan hanfodol yng nghadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus, ond sy’n gallu canfod eu hunain yn delio â thelerau talu estynedig ac arferion talu gwael.

Ond beth yn union yw CBPau? Yn syml, cyfrifon banc wedi’u clustnodi a’u hatgyfnerthu â statws ymddiriedolaeth, a’u sefydlu trwy lawer o’n prif fanciau manwerthu, sy’n gweithredu fel mecanwaith ar gyfer gwneud taliadau yn unig. Mae telerau talu amlhaenog traddodiadol rhwng haenau dilynol yn y gadwyn gyflenwi wedi arwain at isgontractwyr yn aml yn gorfod delio â thelerau talu 60-90 diwrnod, neu delerau talu hirach mewn rhai achosion. Gall CBPau newid hynny i gyd, gan wneud taliadau o fewn 3-5 diwrnod, o dalu’r arian i mewn i’r cyfrif yn dilyn ardystiad arferol yr amserlen dalu a chyflwyno anfoneb gywir. I is-gontractwr, gall hyn olygu ei fod yn cael ei dalu o fewn 7 i 14 diwrnod o gyflwyno ei anfoneb.

Mae CBPau yn cynrychioli arfer gorau wrth sicrhau taliad teg a phrydlon yn y gadwyn gyflenwi, gan sicrhau llif arian gwell, a helpu i leihau methiant y gadwyn gyflenwi i fusnesau Cymru. Yn ychwanegol, wrth iddyn nhw gyflymu’r taliad, maent yn rhoi’r cyfle i roi’r arian hwnnw i weithio’n gynt er budd ein heconomi a’n cymunedau lleol. Mae busnesau sydd wedi elwa o CBPau wedi dweud eu bod yn gallu prynu offer a pheiriannau newydd yn gynt, sy’n gwella eu cynhyrchiant a’u gallu i gystadlu. Mae gan daliadau cyflymach, a sicrwydd taliadau, y potensial i fagu hyder busnesau i greu cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth o ansawdd uchel.

I lawer o fusnesau Cymreig mae’n rhaid bod CBPau yn teimlo fel bod y Nadolig wedi dod yn gynnar. Ac eto, canfu arolwg diweddar gan Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru (CEW) ymhlith busnesau bach a micro (47%) a busnesau canolig eu maint (53%) fod bron i hanner yr ymatebwyr yn nodi eu dealltwriaeth o CBPau fel hyn: naill ai bod ganddynt ‘ddim gwybodaeth’ am CBPau neu fod ganddynt ‘ddealltwriaeth sylfaenol ond yn aneglur am sut y maent yn gweithio neu’r manteision o ddefnyddio un’.

Mae’n ymddangos, po fwyaf yw’r sefydliad y gorau yw’r wybodaeth am CBPau. Mae hyn yn tynnu sylw at y gwir angen sydd i gyfathrebu’n well i fusnesau bach a micro sydd heb yr amser na’r staff i astudio’r manylion. Nid yn unig y bydd eu llif arian yn gwella’n ddramatig trwy daliadau cyflymach, ond mae unrhyw arian a gedwir mewn CBP ar gyfer taliadau i isgontractwyr a gofrestrodd gyda’r trefniant CBP, yn cael ei warchod yn achos ansolfedd y prif gontractwr.

Mae gwaith i’w wneud o hyd i godi ymwybyddiaeth ymhlith busnesau yn ein cadwyni cyflenwi o fanteision CBPau a sut maen nhw’n gweithredu. Yn benodol i chwalu mythau am ‘dâp coch’ a chostau i fusnesau bach a chanolig sy’n ymuno â CBP…

Ni allai’r angen i gofleidio CBPau fod yn fwy o achos brys fel y mae ffigyrau diweddaraf ‘Red Flag Alert’ *Begbies Traynor, sy’n monitro iechyd ariannol cwmnïau Prydeinig, ac a gafodd eu hadrodd ar BusinessLive y mis Hydref hwn, yn dangos; Roedd dros 17,500 o fusnesau Cymru mewn trallod ariannol ‘sylweddol’ yn ystod trydydd chwarter 2022 ac fe welodd Cymru gynnydd o 4% yn nifer y cwmnïau oedd yn ei chael hi’n anodd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2022 – i 17,527. Roedd hyn yn gynnydd o 5% o’i gymharu â’r un cyfnod yn 2021. Busnesau adeiladu yn y rhanbarth yw’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf, gyda 2,796 o gwmnïau mewn trallod ariannol sylweddol yn ystod y tri mis diwethaf.

Ac mae’n hawdd cofrestru am CBP; bydd rhai isgontractwyr yn cael gwahoddiad i ymuno â’r CBP ond gall unrhyw un ofyn am ymuno. Yn syml, mae’r is-gontractwr yn arwyddo Gweithred Ymuno sy’n cael ei ddarparu am ddim gan gleient neu brif gontractwr yn y Sector Cyhoeddus yng Nghymru. Mae talu trwy CBP hefyd yn rhad ac am ddim i isgontractwyr. Telir costau gweinyddol y banc a chostau trafodiadol y taliad gan ddeiliad(iaid) y cyfrif a nhw fydd cleient a / neu brif gontractwr y Sector Cyhoeddus yng Nghymru.

Yn ôl y polisi CBP, ym mhob achos lle mae CBP yn gymwys, rhaid gwahodd cyflenwyr Haen 2 neu haenau is sy’n cyfrif am o leiaf 1% o werth dyfarniad y contract net i ymuno â’r CBP a dylid gwahodd cyflenwyr Haen 2 neu gyflenwyr haen is sy’n cyfrif am lai na 1% o werth dyfarniad y contract net, i ofyn am ymuno â’r CBP. Dylai derbyn ceisiadau o’r fath fod yn amodol ar gytundeb yr WPS a’r prif gontractwr.

Felly, i fusnesau bach a chanolig sy’n gweithio o fewn y sector adeiladu, mae CBPau wir yn golygu bod pawb ar eu hennill. Does dim ond angen iddyn nhw gofleidio’r hyn sydd ar gael ac elwa ar y manteision!

*Warning as 17,000 Welsh firms in significant financial distress amid economic turmoil – Business Live (business-live.co.uk)

Fframweithiau
cydweithredol

Defnyddir ein fframweithiau yn rhanbarthol a chenedlaethol i ddarparu adeiladau a phrosiectau adeiladu priffyrdd, ac i ddarparu gwasanaethau technegol a phroffesiynol.

Rhagor o Wybodaeth
sewh
sewh

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Peirianneg Sifil a Phriffyrdd De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewscap
sewscap

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewtaps
sewtaps

Fframwaith Gwasanaethau Technegol a Phroffesiynol De-ddwyrain Cymru.

Rhagor o wybodaeth