Ein partneriaethau

Rydym yn rheoli ac yn darparu partneriaeth gaffael gydweithredol sy’n cynnwys Cyngor Caerdydd, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, a Chyngor Bro Morgannwg.

Ein nod yw darparu caffael cymdeithasol-gyfrifol i’n holl bartneriaid drwy harneisio ein hadnoddau, gwybodaeth ac arbenigedd a rennir.

Pam rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cydnabod y rôl ganolog y gall caffael ei chwarae wrth gefnogi’r gwaith o ddarparu lles amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ar draws ein cymunedau a Chymru.

Hefyd, bydd y Bil Caffael sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan Lywodraeth y DU yn gofyn am newidiadau sylweddol i’r ffordd y caiff arfer caffael y sector cyhoeddus ei reoli.

Rydym yn sylweddoli, er mwyn cyflawni canlyniadau lles ac ymateb yn gadarnhaol i’r gofynion deddfwriaethol newydd, y byddwn mewn sefyllfa gryfach drwy weithio mewn partneriaeth â’n gilydd.

Cyfrannu at fod yn garbon niwtral erbyn 2030

Rydym yn gwybod bod 80% o ôl troed carbon Awdurdodau Lleol fel arfer yn dod o’r cyflenwadau, y gwasanaethau a’r gwaith y mae’n eu prynu.

Mae pob un o’n partneriaid wedi datgan argyfwng hinsawdd ac wedi sefydlu strategaethau a chynlluniau i fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

Ein nod yw cefnogi hyn drwy’r canlynol:

• Deall ôl-troed carbon nwyddau, gwasanaethau a gwaith a brynir gan y Cyngor i sicrhau bod ein gweithgaredd lleihau carbon yn cael ei dargedu lle y gall gael yr effaith fwyaf.
• Gweithio gyda’n haelodau etholedig, staff, partneriaid a chontractwyr i sicrhau bod lleihau carbon yn cael ei wreiddio’n llawn yn ein prosesau gwneud penderfyniadau drwy’r cylch caffael cyfan ac y gweithredir atebion carbon isel pan fo’n briodol.
• Cydweithio â sefydliadau drwy’r sectorau cyhoeddus a phreifat, a’r trydydd sector, cyfan, er mwyn annog a chyflymu’r broses o drosglwyddo at atebion carbon isel.

Gwneud gwariant caffael yn fwy hygyrch i fusnesau bach lleol a’r trydydd sector

Mae ein partneriaid yn cydnabod y gwerth economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol y gellir ei gynhyrchu drwy wario arian gyda busnesau lleol, yn enwedig busnesau bach a micro, ac unigolion, a’r trydydd sector, gan gynnwys mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol (MGCCh).

Ein nod yw cefnogi hyn drwy’r canlynol:

• Cynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael ac sydd i’w gweld gan fusnesau bach a’r trydydd sector i gyflenwi’r Cyngor.
• Ei gwneud yn haws i fusnesau bach a’r trydydd sector wneud busnes gyda ni drwy safoni a symleiddio ein gofynion, ein prosesau a’n systemau.
• Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gallu a chapasiti busnesau bach a’r trydydd sector i sicrhau contractau sector cyhoeddus.

Gwella arferion gwaith teg a mabwysiadu arferion diogelu gan gyflenwyr

Mae ein holl bartneriaid wedi ymrwymo i’r Cod Ymarfer Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi, sy’n ceisio mynd i’r afael â chaethwasiaeth fodern, cam-drin hawliau dynol, rhestru duon, hunangyflogaeth ffug, defnydd annheg o gynlluniau ymbarél a chontractau dim oriau.

Mae Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn creu fframwaith i wella lles pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy waith partneriaeth cymdeithasol, hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy’n gymdeithasol-gyfrifol.

Hefyd, mae diogelu pobl sy’n agored i niwed yn flaenoriaeth allweddol i’n holl bartneriaid ac mae angen i ni sicrhau bod ein cyflenwyr a’n contractwyr yn deall ac yn derbyn bod diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o niwed yn gyfrifoldeb pawb.

Ein nod yw cefnogi hyn drwy’r canlynol:

• Sicrhau bod tendrwyr a chontractwyr yn ymwybodol o’n hymrwymiad i weithio gyda sefydliadau a fydd yn ein cefnogi i gyflawni dyletswyddau cydraddoldeb, gwaith teg a diogelu.
• Defnyddio ein proses dendro i sicrhau bod ein cyflenwyr a’n contractwyr wedi ymrwymo i’n cefnogi i gyflawni ein dyletswyddau cydraddoldeb, gwaith teg a diogelu.
• Gweithio gyda’n cyflenwyr a’n contractwyr i sicrhau eu bod yn hyrwyddo arferion gwaith teg a diogelu o fewn eu sefydliad a’u cadwyn gyflenwi.

Cynyddu buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol a ddarperir gan gyflenwyr

Mae Buddion Cymunedol a Gwerth Cymdeithasol yn ymrwymiadau ychwanegol a wneir gan dendrwyr yn ystod y broses dendro i ddarparu gwerth economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol drwy gydol y gwaith o gyflawni contractau’r Cyngor. Maen nhw fel arfer yn canolbwyntio ar:

• Hyfforddi a recriwtio pobl sy’n anweithgar yn economaidd
• Mentrau cadwyn gyflenwi a Gweithio gyda’r 3ydd Sector
• Mentrau Addysgol
• Mentrau Cymunedol a Diwylliannol
• Mentrau Amgylcheddol

Mae ein partneriaid yn cydnabod y cyfleoedd maen nhw’n eu darparu i fynd i’r afael â’r bwlch anghydraddoldeb a thlodi a darparu cefnogaeth y mae mawr ei hangen i’n cymunedau a’n hunigolion.

Ein nod yw cefnogi hyn drwy’r canlynol:

• Mabwysiadu dull cyson o sicrhau a rheoli’r gwaith o ddarparu buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol mewn ffordd y mae ein partneriaid a’u cyflenwyr a’u contractwyr yn ei deall.
• Cydlynu’r dull buddion cymunedol a gwerth cymdeithasol drwy weithio gyda gwasanaethau’r Cyngor, ein cymunedau, ein partneriaid a’n contractwyr i lywio ein blaenoriaethau a hwyluso’r gwaith o’u cyflawni.
• Adrodd ar gyflawniadau, dysgu o fethiannau, a hyrwyddo llwyddiant.

Sicrhau gwerth am arian a rheoli’r galw

Mae gan ein partneriaid wariant caffael blynyddol cyfunol o dros £1 biliwn. Felly mae’n bwysig eu bod yn gallu dangos gwerth am arian ar bob cam o’r cylch bywyd caffael.

Yn bwysig, mae ein partneriaid yn cydnabod bod angen i werth am arian ystyried ansawdd a chost oes gyfan o ran ystyriaethau ariannol ac amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol ehangach, yn enwedig lleihau carbon a buddion cymunedol.

Ein nod yw cefnogi hyn drwy’r canlynol:

• Gwella gwelededd ac ymwybyddiaeth o ble a sut mae arian yn cael ei wario.
• Ymgorffori gwerth am arian ac ystyriaethau cost oes gyfan yn y cylch bywyd caffael.
• Helpu i wella cysondeb a chymhwysiad rheoli contractau.

Sicrhau cydymffurfio cyfreithiol a llywodraethu cadarn a thryloyw

Mae caffael cyhoeddus yng Nghymru yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth Cymru a’r DU. Hefyd, bydd gan ein partneriaid eu trefniadau llywodraethu cyfansoddiadol eu hunain, yn arbennig Rheolau Sefydlog Contractau a Rheolau Caffael.

Mae’r dirwedd ddeddfwriaethol yn destun newid sylweddol gyda Bil Caffael newydd y DU a’r Bartneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Bydd yr heriau a’r cyfleoedd yn sgil hyn yn gofyn i ni wella ein harferion, ein prosesau a’n systemau.

Ein nod yw cefnogi hyn drwy’r canlynol:

• Adolygu a diweddaru dogfennau, prosesau, systemau a rheolaethau caffael yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn adlewyrchu newidiadau deddfwriaethol, a phan fo hynny’n bosibl, eu bod yn cyd-fynd ar draws ein partneriaid.
• Darparu addysg a hyfforddiant i swyddogion y Cyngor sy’n ymwneud â’r broses gaffael.
• Sicrhau bod gennym drefniadau digonol ar waith i reoli perfformiad a darparu goruchwyliaeth a sicrwydd i dimau arweinyddiaeth y Cyngor.

Hybu atebion arloesi ac arfer gorau

Mae ein partneriaid yn cydnabod na fydd llawer o’r heriau rydym yn eu hwynebu yn cael eu hateb drwy gynnal y drefn bresennol a bod angen herio ein hunain a’n marchnadoedd i ddarparu cynnyrch a ffyrdd newydd o weithio a all ein helpu i wneud y canlynol:

• Lleihau carbon.
• Cynyddu cyflawniad Buddion Cymunedol a Gwerth Cymdeithasol.
• Cyflawni canlyniadau gwell.
• Cynnal neu leihau costau i gefnogi sefyllfa’r gyllideb.
• Gwella gwasanaethau.

Mae hyn yn golygu bod angen i ni gynllunio’n well, herio’r hyn rydyn ni wedi’i wneud erioed, ymgysylltu â marchnadoedd yn gynnar, chwilio am arferion da o bob rhan o’r sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat a defnyddio’r broses gaffael fel modd o ysgogi’r farchnad i gynnig atebion sy’n mynd i’r afael â phroblemau, heriau a chanlyniadau penodol.

Ein nod yw cefnogi hyn drwy’r canlynol:

• Herio trefniadau caffael a modelau cyflenwi presennol a chwilio am enghreifftiau perthnasol o arloesi ac arfer gorau yn y farchnad.
• Annog dull caffael sy’n seiliedig ar ganlyniadau / problemau i ysgogi atebion creadigol ac arloesol ac ymgysylltu’n gynnar â marchnadoedd.
• Cydweithio â Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a sefydliadau sector cyhoeddus eraill i sbarduno arloesedd a gwerth ychwanegol a rhannu arfer da a datblygu dealltwriaeth.

Sero net

Cyfrannu at leihau allyriadau carbon i Sero Net erbyn 2030.

Buddion i’r gymuned

Cynyddu buddion cymunedol a gyflawnir gan gyflenwyr.

Gwaith teg

Gwella arferion Gwaith Teg, Tegwch a Diogelwch a ddefnyddir gan gyflenwyr.

Cefnogaeth i'r economi leol

Gwneud gwariant caffael yn fwy hygyrch i fusnesau bach lleol a’r trydydd sector.

Fframweithiau
cydweithredol

Defnyddir ein fframweithiau yn rhanbarthol a chenedlaethol i ddarparu adeiladau a phrosiectau adeiladu priffyrdd, ac i ddarparu gwasanaethau technegol a phroffesiynol.

Rhagor o Wybodaeth
sewh
sewh

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol Peirianneg Sifil a Phriffyrdd De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewscap
sewscap

Fframwaith Adeiladu Cydweithredol De-ddwyrain a Chanolbarth Cymru.

Rhagor o wybodaeth
sewtaps
sewtaps

Fframwaith Gwasanaethau Technegol a Phroffesiynol De-ddwyrain Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Mae ein fframweithiau’n cael eu defnyddio gan...

Ein hastudiaethau achos diweddaraf

Gweld yr holl Astudiaethau Achos

STEAM Academy, Bridgend College

Rhagor o wybodaeth

Delivering Modern Methods of Construction

Rhagor o wybodaeth

Delivering Net-Zero Carbon Schools Fit For The Future

Rhagor o wybodaeth

Setting Up a Project Bank Account in Wales

Rhagor o wybodaeth

STEAM Academy, Bridgend College

Delivering Modern Methods of Construction

Delivering Net-Zero Carbon Schools Fit For The Future

Setting Up a Project Bank Account in Wales