Cwcis

Ffeiliau yw cwcis a anfonir i’ch cyfrifiadur, neu ddyfais debyg arall, gan wefan. Yna, gall y wefan honno gael mynediad i’r ffeiliau hyn yn nes ymlaen. Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.

Rydyn ni’n defnyddio cwcis i gael gwybodaeth ddienw am sut y mae pobl yn defnyddio ein gwefan ac i helpu ni i wybod beth sy’n ddiddorol ac yn ddefnyddiol ar ein gwefan.

Mae’r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn ddiofyn. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon â chwcis, efallai y gallwch newid gosodiadau’ch porwr i wrthod pob cwci neu roi gwybod i chi pan gaiff cwci ei anfon i’ch cyfrifiadur – yna, gallwch chi ddewis p’un ai i dderbyn y cwci ai peidio.

Nodwch na fyddwch, o bosib, yn gallu defnyddio rhai rhannau neu nodweddion ar ein gwefan os byddwch yn gwrthod ein cwcis neu’n atal cwcis yn y dyfodol.

Er enghraifft, os byddwch yn defnyddio’n jobs site, bydd angen i chi ganiatáu cwcis er mwyn gallu defnyddio’r gwasanaeth ar-lein hwn i’w lawn botensial. Hefyd, os ydych chi am wneud taliadau, bydd angen galluogi cwcis.

Sut i reoli a dileu cwcis

Ni fydd Cyngor Caerdydd yn defnyddio cwcis i gasglu eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, os ydych am gyfyngu neu rwystro’r cwcis a osodir gan wefannau Cyngor Caerdydd, neu unrhyw wefan arall, gallwch wneud hyn drwy osodiadau eich porwr. Dylai opsiwn Help eich porwr allu eich tywys drwy hyn.

Fel arall, efallai yr hoffech fynd i www.aboutcookies.orgDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am sut i wneud hyn ar amrywiaeth o borwyr. Hefyd, fe welwch fanylion am sut i ddileu cwcis o’ch cyfrifiadur ynghyd â gwybodaeth fwy cyffredinol am gwcis. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn ar borwr eich ffôn symudol bydd angen i chi ddarllen llawlyfr eich ffôn.

Cofiwch y gall cyfyngu ar gwcis effeithio ar weithrediad gwefannau Cyngor Caerdydd.